Gobeithio bod hwn ddim yn neud i fi ymddangos fel mwy o ffatibwmbwm na’r arfer, ond dwi wedi esguluso fy nyletswyddau blogio bwyd yn ddiweddar.
Felly dyma’r gyntaf mewn cyfres o adolygiadau byr o llefydd dwi di bwyta ynddynt mis Medi.
Aethom fel teulu bach (fi, Bethan a Megan fach) i’r gorllewin am benwythnos. O’n i di clywed canmoliaeth am Blacksheep Restaurant yn Hwlffordd ar twitter Blacksheep Restaurant
felly dyma fi’n ffonio i bwcio bwrdd ar gyfer amser cinio dydd Sadwrn, mae’n debyg fod o’n lle poblogaidd a bod o’n syniad da bwcio o flaen llaw.
Mae’r bwyty ei hun wedi ei leoli ar y stryd fawr ar y llawr cyntaf drws nesaf i bwyty arall, ei chwaer fwyty eidalaidd, yn be sy’n edrych fel hen neuadd y dre. Mae’r Ystafell fwyta bach yn plaen gyda awyrgylch tamaid oeraidd, ond mae’r bwyd a’r gwasanaeth yn wych!
Mae bwyta allan gyda un bach medru bod yn boen, a mae Megan sydd bron yn dri medru bod yn llond llaw, ond mae’r blacksheep yn croesawu plant, ac mae dewis digonol ar y bwydlen ar eu cyfer, er bod maint eu platiau bach yn fawr. Oedd y darnau o bysgod di ffrio gyda sglodion gafodd eu rhoid o’i blaen yn ddigonol i oedolyn, a fedra’i cadarnhau eu bod yn blasus tu hwnt…..
Es i am un o’r speshials y “Fish Stew”. (£8) Cymysgedd o bysgod, gan gynnwys llysywen sy’n rhywbeth go anghyffredin y dyddiau hyn, gyda gorgymychiaid a cherrig gleision mewn saws tomato. Blasus tu hwnt, er os oedd un cwyn bac hdoedd y tatws yn y cawl ddim cweit di cwcio drwodd. Aeth Bethan am y “pulled pork”, (£7) doedd o ddim cweit fel y pulled pork sydd i weld ar “Man v’s Food”, ond gafodd ei fwyta yn ddi ffwdan.
Nes i osgoi’r pwdin (dwi’n trio colli pwysau….) ond gafodd Bethan un or meringues gorau mae rioed di blasu.
Fedra’i ddim canmol y lle digon, bwyd gwych a rhesymol gyda gwasanaeth penigamp. Ewch yna dilynwch nhw ar twitter @Blacksheepfood am gynigion arbennig.