Deiat

A oedd hi’n syniad doeth i gychwyn deiat yr un pryd a blog am fwyd? Mae’n siwr taw dyma pam dwi ‘di bod yn ddistaw yn diweddar.

Mae modd dilyn fy hanes yn fy mlog Saesneg 52 pounds ond o’r ochor bwyd, coginio a bwyta mae mynd ar ddeiat yn agoriad llygad.

Dwi di dewis y lôn weightwatchers, mae’n hawdd i ddilyn, ac yn y bôn mae’n rheoli faint o protîn ond yn arbennig faint o “garbs” mae rhywun yn bwyta yn ddyddiol.

Mae’n newid perthynas unigolyn a bwyd, o rhywbeth mae rhywun yn ei fwynhau i rhestr o bwyntiau. Mae pwyntiau isel yn dda a bwydydd sy’n uchel eu pwyntiau yn wael. Mae o hefyd yn deg i ddeud fod stwff neis a blasus, ar y cyfan, yn uchel mewn pwyntiau.

Mi fydda’i yn ceisio arbrofi yr wythnos hon i baratoi prydoedd blasus sydd ddim yn llawn pwyntiau!

Cadw caws

Gês i gyfle wythnos diwethaf i ymweld a fferm Gorwydd ger Llanddew Brefi. Yma mae nhw’n cynhyrchu caws, a dim ond un caws, sef caws Caerffili. Ac mae’n rhaid i fi cyfaddef ei fod o’n lyfli. Llefrith lleol sy’n gael ei ddefnyddio i greu’r caws sy’n cael ei aeddfedu am ddeufis cyn iddo cyrraedd y siop.

Mae’r blas yn siarp ond hufenog, gyda’r caws yn “crymbli” fel mae o fod. Dipyn o gamp mewn un caws.

Ond un o’r pethau sydd wedi fy mhoeni ers sbel (ddim yn ormodol!) yw’r cwestiwn o gadw caws yn y ty. Wel diolch i perchnogion cwmni caws Gorwydd, fedra’i rhannu’r gyfrinach.

Cadw’ch eich caws ar wahan wedi ei lapio mewn papur cwyr (waxed paper) neu mewn papur pobi (baking parchment) yn y blwch llysiau yn yr oergell. Mae’n debyg fod y papur yn caniatau i’r caws anadlu ac mae’r llysiau yn rhyddhau lleithder dy’n perffaith ar caws!

Mae fy lwmp o Caerffili di gael ei gadw fel hyn ers wythnos, ac er ei fod wedi lleihau mewn maint (tybed pam?) mae o yr un mor dda a’r diwrnod nes i brynu fo!

Jiraff

Aethom fel teulu i ddinas hyfryd Caerfaddon (Bath) heddiw. Un o’r prif rhesymau am y trip oedd i trio’r bwyd yn Giraffe, “tsiaen” cymharol newydd sydd wedi cael ei ganmol am fod yn gyfeillgar wrth croesawu teuluoedd. Bydd Megan ein merch yn dri mis Tachwedd ac mae hi yn yr oedran lle mae’n dechrau mwynhau bwyta allan. Dyma sut aeth hi.

Y Croeso

Oedd y staff yn hynod croesawgar, ifanc a phroffesiynol. Does dim modd bwcio bwrdd yn ystod y dydd ar benwythnos, ond oedd digon o le am 1 o’r gloch ar ddydd Sadwrn.

Awyrgylch

Ma nhw’n mynd am teimlad “cantîn”, dim byd arbennig am y decôr, dipyn o hommage i warws Efrog Newydd o’r oes a fu.

Bwyd

20110813-201237.jpg

Mae’r dewis yn OK, brunch/texmex gyda twtch o Siapan! Es i am chicken wings i ddechrau, ac mae’n rhaid deud, er yn syml, oedd yr adenydd yn arbennig, wedi coginio i perffeithrwydd gyda bach o gic. Ar gyfer y prîf gwrs ers i am y byrgar cig oen mewn bara foccacia wedi ei llwytho a danteithion Groegaidd, oedd y tzatsiki a’r phupur coch yn boddi’r cig braidd, ond digon blasus oedd y pryd ar y cyfan, sglodion gyda crwyn ymlaen oedd yn cyfeilio. Fish fingers yw hoff fwyd Megan pan ma hi oddi cartref, felly’r “fish & chips” gyda pys oedd y peth agosaf ar y fwydlen i blant. Darn o sgodyn mewn “batter” a’la birds eye daeth i’r bwrdd a fytodd hi’r cyfan, er oedd hi ddim yn rhy hoff o’r sglodion. Aeth Bethan am y “beef enchiladas”, digon blasus ond’ sa hi ddim yn gael o eto. Ond un peth naeth ei phlesio oedd y Mojito gafodd hi i yfed, er yn ddrud dros £6.

I orffen ges i noisette, sef espresso dwbwl gyda “hazelnut syrup” a jwg bach o lefrith poeth, lyfli. Aeth Bethan am y “cawsgac” siocled gyda maltesers ar ei ben a saws siocled, neis iawn oedd y barn, a gafodd Megan yr hufen ia, er oedd hi di llenwi efo pysgod a phys erbyn hynnu.

Gwerth am arian

£60 oedd y cyfanswm a oedd yn cynnwys tip o 10% am y gwasanaeth rhagorol (hyn yn cynnwys yr uchod a potel o Sol a smoothie i Megan). Braidd yn ddrud ar y cyfan ond oedd y croeso teuluol yn golygu y byddwn yn galw eto rhyw dro.

Mae Caerfaddon i weld yn lle da iawn i fynd os ydych yn hoffi’ch bwyd, nes i basio oleiaf 3 siop “Cornish Pasty” oedd pobol yn ciwio i fynd iddynt! A ma na amrywiaeth o lefydd bwyd uchel eu clôd yng nghanol y ddinas.

Ewch am dro…..

Bwyd Cymru

Helo a chroeso i’r blogbwyd. Y nôd efo’r blog yma yw dathlu, rhannu a blasu y gorau o fyd bwyd a diod Cymru. Dros amser dwi’n gobeithio neith o ddatblygu’n safle lle y gallwch darganfod ryseitiau, manylion ar ba cynyrch sydd ar gael ar ba bynnag adeg o’r flwyddyn ag wrth gwrs manylion ar cynyrch bwyd a diod Cymraeg, sut flâs sydd arno a lle mae modd ei brynu.

Gwyliwch y gofod hyn, caws Caerffili fydd yn mynd a fy sylw yn gyntaf.

Huw