Llenwi ar lysiau

un peth dwi di dysgu dros y misoedd diwethaf yw’r pwysigrwydd o baratoi eich bwyd eich hunain. Mae’n un o’r rhesymau i mi fethu yn ddiweddar, colli’r arfer a thrwy hynny colli’r cysylltiad rhwng be sy’n mynd i fy ngheg a be sydd yn fy mhen. Yndi mae’n cymryd fwy o amser ond mae o sicr yn werth yr ymdrech. Dyw paratoi prydoedd blasus sy’n eich llenwi ddim yn anodd. Ar ddyddiau ympryd dwi’n ceisio cael un pryd sylweddol i de.

Dyma pryd heno, nath cymryd 10 munud i baratoi.

Nes i taflu 400 gram o marrow (ma nhw’n rhad iawn ar hyn o bryd) 400 gram o aubergine, 350 gram o fadarch gwyn ac un nionyn cyfan (250 gram) y cyfan wedi torri’n darnau cymharol fân i sosban mawr non-stick. Ychydig o arlleg wedi torri’n fân a ciwb stoc. Cadwch i droi wrth i’r llysiau coginio am bum munud. Ychwanegwch tin o thomatos wedi torri’n fân. Ychwanegwch halen a pupur a pherlysiau (os y mynnwch) ar ôl hanner awr o ffrwtian ar tymheredd isel ychwanegwch 180 gram o Quorn a gadewch iddo ffrwtian ymhellach am o leiaf hanner awr. Fydd digonedd gennych am 4 pryd, pob “portion” dim ond yn 180 o galorïau!!!

I fynd efo’r stiw llysieuol ag i rhoi bach o grensh be am bach o “stir fry”?

Dwi’n cadw cymysgedd (pwysau hafal) o foron, nionod a fresych (gwyn neu coch) mewn twb yn yr oergell, yn bennaf ar gyfer neud coleslaw yn ôl y gofyn, ond mae’r cymysgedd yn neud stir-fry cyflym a iachus. Mae 100 gram o’r cymysgedd wedi ei ffrio mewn hanner llwy de o olew cneuen coco gyda ychydig o arlleg a saws soi yn llai na 60 o galorïau,

Gesi dau llond powlen â’r cyfan yn llai na 500 o galorïau.

Gallwch rhewi y stiw a gallwch ei ddefnyddio i baratoi lasagne neu drwy ychwanegu ychydig o chilli mae’n creu’r partner perffaith i taten pôb 👍🏻

Gadael sylw